P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol, Gohebiaeth - Deisebydd i’r Pwyllgor, 31.05.23

 

Annwyl aelodau o’r pwyllgor deisebau,

 

Rwy’n falch iawn bod y ddeiseb yma wedi cyrraedd 10,000 - mae’n dangos bod Sycharth, hanes Glyndŵr, a hanes Cymru mor agos at galonnau bobl.

 

Mae dros 6 mlynedd wedi bod bellach ers i fy neiseb ar ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion gyrraedd y trothwy (5,000 adeg yno), a deiseb arall wedyn yn 2020 yn gofyn i’r Gweinidog addysg ar y pryd, Kirsty Williams, i ddefnyddio’r wybodaeth oedd pwyllgor oedd yn edrych ar y mater wedi ei gasglu, i wneud y pwnc yn ofynnol mewn ysgolion yn y wlad - a falch yw gweld bod newid wedi dechrau gyda dysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd.

Credaf fod hi’n allweddol rŵan i blethu’r safleoedd allweddol yma gyda hanes Cymru, gyda’r addysg yma, a dyna pam y gwnes i ddeiseb ar achub Sycharth.

 

Byddai achub a datblygu’r safle ddim yn unig yn dod a’r safle yn fwy at sylw bobl yn y genedl (llawer o bobl sydd nai llai ddim yn gwybod bod y safle yn bodoli ar hyn o bryd, neu lle mae ei leoliad) ond hefyd yn dod a balchder at bethau fel yr iaith a’r diwylliant, a heb os byddai defnyddio’r safle yma’n galluogi’r person, yn enwedig disgyblion a phlant, i ddychmygu’r hanes, ac yn plethu’r holl beth mewn i’r tirlun. 

 

Digalon felly oedd gweld y safle yn ei stad bresennol  - Dyma sut y disgrifiais fy mhrofiad wrth ymweld â’r safle dipyn o fisoedd yn ôl:

 

‘Prin bod arwydd i'w weld wrth fynd yno yn cyfeirio at y lle ar y ffordd drwy Llangedwyn. Er bod y maes parcio wedi'i darmacio, a camfa newydd i fynd dros y ffens, does dim arwydd na teimlad o werthfawrogiad hefo'r safle yma a'i bwysigrwydd i Gymru, mae fel ryw lecyn wedi ei guddio i ffwrdd, tra bod cestyll mawreddog Caernarfon a Chonwy yn cael ei ddathlu yn ddiddiwedd.

Fel gwelir yn y lluniau, roedd o'n dipyn o gamp i gael ni'n pedwar drosodd, ac yn sicr bysa rhywun sydd isio dod â Cadair olwyn ar y cae a hefo anghenion arbennig yn cael trafferth mawr. Er diwrnod mor braf oedd hi, dwi'n credu bysa'r llwybr dros y gamfa yn troi yn boetsh gwlyb mwyaf sydyn!

Un o'r pethau mwyaf rhwystredig oedd y ffyrdd i fynd ato, yn troi a throelli, a gyda tyllau a phyllau ar y rhannau ger y maes parcio.

Y teimlad o'r castell ei hun yw does ddim llawer o eglurhad o'r safle, gyda dau plac gwybodaeth ger y fynedfa, a dim arall wedyn - a bechod oedd gweld erydiad a mieri ar twmpath y castell.’

 

Gwallgof felly ydi gweld nad ydi Sycharth dan berchnogaeth y genedl - tra bod llefydd eraill gyda’r un pwysigrwydd cenedlaethol yn cael y fraint yma.

 

Wrth i ni ddathlu ac edrych yn ôl ar ein hanes, mae’n bwysig i ddefnyddio’r safle yma, yn ogystal â safleoedd eraill dros Gymru, i ddehongli’r gorffennol, a gan fod Sycharth, a hanes Glyndŵr yn rhan annatod o hanes ein Cenedl, mae’n allweddol i gynnal trafodaeth ar ddyfodol a phwysigrwydd Sycharth ar lawr y Senedd.

 

 

--

Elfed wyn ap Elwyn